#

 

 

 


Rhif yr e-ddeiseb: P-05-771

Teitl y ddeiseb: Ailystyried y penderfyniad i gau Grant Byw'n Annibynnol Cymru a chefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Testun y ddeiseb:

Pam yr ydym yn gwrthwynebu'r penderfyniad:

​​Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y penderfyniad wedi'i wneud ar sail cyngor gan randdeiliaid. Cynrychiolwyr o'r trydydd sector neu ddinasyddion oedd y mwyafrif ar y grŵp rhanddeiliaid. Ond nid oeddynt eisiau cael gwared ar Grant Byw'n Annibynnol Cymru, a'r pwynt allweddol yw na chafodd ein cyngor ei dderbyn.

​​​Dylid cofio hefyd nad oes yn rhaid rhoi'r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru, ac mae llwyddiant Cronfa Byw'n Annibynnol yr Alban yn brawf o hynny; sydd hefyd yn ddadl o blaid cefnogi Cronfa Byw'n Annibynnol Gogledd Iwerddon.

​​​​​​​​At hynny, roedd maniffesto poblogaidd y blaid Lafur yn nodi cynlluniau i sefydlu system ofal genedlaethol a fyddai'n annibynnol ar awdurdodai lleol.

​​​​​​​​Dyma'r union amser y dylai'r Blaid Lafur uno yn erbyn y Torïaid ar faterion o'r fath. Rhaid i ni gwestiynu pam nad yw Plaid Lafur Cymru yn chwarae ei rhan wrth newid y tirlun gwleidyddol?

​​​​Yn wir, yn y pen draw, dylem fod yn anelu at sefydlu Cronfa Byw'n Annibynnol i Gymru fel nad oes yn rhaid i unrhyw berson anabl ddioddef yr ansicrwydd a'r unigedd a wynebir gan y rheini sy'n cael Grant Byw'n Annibynnol Cymru ar hyn o bryd. Ni allwn ddechrau credu bod gwir gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb i bawb yn bosibl oni fydd Llafur Cymru yn ailystyried ei benderfyniad ynghylch Grant Byw'n Annibynnol Cymru.

​​​​​​​Mae'n siŵr y bydd Llafur Cymru yn dadlau y dylem roi cyfle i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) lwyddo. Fodd bynnag, mae angen buddsoddiad ac adnoddau sylweddol ar y Ddeddf ddelfrydyddol hon i sicrhau ei bod yn llwyddo – ac nid oes dim golwg o'r gwelliannau sydd eu hangen ar ein seilwaith er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn llwyddo. Efallai'n wir ei bod yn bryd cael chwyldro yn y ffordd y darperir gofal cymdeithasol, ond gallai'r fath drawsnewid gymryd degawd neu ragor, ac nid yw'r rhai sy'n derbyn Grant Byw'n Annibynnol Cymru yn haeddu cael eu trin fel arbrawf pan fo'u hanghenion o ran gofal a chymorth yn gofyn am sefydlogrwydd a strwythur hirdymor.


O fis Ebrill 2018 ymlaen, bwriedir trosglwyddo'r cyllid ar gyfer Grant Byw'n Annibynnol Cymru, a gymerodd lle'r Gronfa Byw'n Annibynnol, a’i ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol fel rhan o ddarpariaeth prif ffrwd awdurdodau lleol. Bydd y rhai sy'n cael Grant Byw'n Annibynnol Cymru ar hyn o bryd yn cael cymorth drwy wasanaethau a ddarperir neu a drefnir gan awdurdodau lleol neu drwy daliadau uniongyrchol a weinyddir gan awdurdodau lleol.

Cefndir

Cynllun dewisol a ariannwyd gan Lywodraeth y DU oedd y Gronfa Byw'n Annibynnol, a oedd yn helpu pobl ag anghenion gofal dydd a nos a oedd yn cael elfen gofal gyfradd uwch y Lwfans Byw i'r Anabl. Roedd y Gronfa Byw'n Annibynnol wedi'i dargedu at bobl anabl ag anghenion cymorth cymharol uchel fel dewis arall yn lle gofal preswyl ac fe'i darparwyd yn ychwanegol at wasanaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol.

Sefydlwyd y Gronfa Byw'n Annibynnol ym 1988 fel cynllun ar gyfer y DU gyfan gyda swyddfeydd yn Nottingham. Roedd yn gweithredu fel ymddiriedolaeth  annibynnol yn ôl disgresiwn a ariannwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac fe'i rheolwyd gan fwrdd ymddiriedolwyr. Byddai'r rhai a oedd yn gymwys i gael taliadau o'r Gronfa yn defnyddio'r arian i brynu gwasanaethau cymorth, yn enwedig cynorthwywyr personol, mewn modd tebyg i Daliadau Uniongyrchol.

Ym mis Rhagfyr 2010, cyhoeddodd Gweinidog Pobl Anabl Llywodraeth y DU fod y Gronfa Byw’n Annibynnol ar gau i geisiadau newydd. Ym mis Rhagfyr 2012, yn dilyn ymgynghoriad ar ddyfodol y Gronfa, cyhoeddwyd y byddai'n cael ei chau yn barhaol o fis Ebrill 2015 ymlaen.

Fodd bynnag, ym mis Tachwedd 2013 penderfynodd y Llys Apêl i gynnal her gyfreithiol yn erbyn y Llywodraeth ar ôl canfod iddi fethu â chyflawni ei Dyletswydd Gydraddoldeb yn yr ymgynghoriad ar ddyfodol y Gronfa Byw'n Annibynnol ac wrth benderfynu ei chau. Yn dilyn hynny, cynhaliodd yr Adran Gwaith a Phensiynau asesiad effaith cydraddoldeb newydd ac, ym mis Mawrth 2014, cyhoeddodd y Gweinidog dros Bobl Anabl y byddai'r Gronfa Byw'n Annibynnol yn cau ar 30 Mehefin 2015. O 1 Gorffennaf 2015 ymlaen, trosglwyddwyd y cyllid a'r cyfrifoldeb ar gyfer anghenion gofal a chymorth y Gronfa Byw'n Annibynnol i awdurdodau lleol yn Lloegr a'r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gweinyddu Grant Byw'n Annibynnol Cymru ers 1 Gorffennaf 2015, ac mae'r taliadau i'r rhai a oedd yn arfer cael cymorth drwy’r Gronfa Byw'n Annibynnol wedi parhau. O fis Ebrill 2018 ymlaen, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig trosglwyddo cyllid Grant Byw'n Annibynnol Cymru i awdurdodau lleol ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i'r rhai a oedd yn arfer cael cymorth drwy’r Gronfa Byw'n Annibynnol fel rhan o ddarpariaeth prif ffrwd yr awdurdodau lleol.

Yn Lloegr, awdurdodau lleol sydd bellach yn gyfrifol am asesiadau anghenion a threfniadau gofal y rhai a oedd yn arfer cael cymorth drwy’r Gronfa Byw'n Annibynnol.

Yn yr Alban, crëwyd Cronfa Byw'n Annibynnol newydd ar gyfer pobl a oedd yn arfer cael cymorth drwy’r Gronfa Byw'n Annibynnol. Mae cronfa newydd wedi'i chyflwyno yng Ngogledd Iwerddon hefydyn lle'r Gronfa Byw'n Annibynnol, ac fe'i gweinyddir drwy Gronfa Byw'n Annibynnol yr Alban.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymateb i'r ddeiseb.

Mae'n dweud na wrthwynebwyd y penderfyniad i drosglwyddo arian o Grant Byw'n Annibynnol Cymru i wasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol gan y grŵp cynghori rhanddeiliaid, sef y grŵp y mae'r Gweinidog yn ymgynghori ag ef ar benderfyniadau ynghylch yr hen Gronfa Byw'n Annibynnol.

Mae’n dweud hefyd y bydd darparu'r holl wasanaethau gofal cymdeithasol drwy'r awdurdodau lleol yn decach, yn enwedig o gofio bod y Gronfa Byw'n Annibynnol wedi'i chau i ymgeiswyr newydd ers 2010, ac y bydd yn helpu i sicrhau bod pob person anabl yn cael gwasanaethau gofal cymdeithasol yn yr un modd.  

Mae'r Gweinidog yn nodi'r opsiynau amgen a ystyriwyd, gan gynnwys trefnu bod y taliadau i’r rhai sy'n gymwys yng Nghymru yn cael eu gweinyddu gan Gronfa Byw'n Annibynnol yr Alban. Mae'n dweud na fyddai'r opsiwn hwn wedi bod ar gael am gryn amser ac y byddai wedi bod yn rhy gostus.